Damwain lori, Caerfaddon (Llun; PA)
Mae dau ddyn wedi eu cael yn euog o ddynladdiad ar ôl i lori â brecs diffygiol ladd pedwar o bobol yng Nghaerfaddon.

Yn Llys y Goron Bryste, cafwyd perchennog cwmni cludo nwyddau, Matthew Gordon, 30, a’r mecanig, Peter Wood, 55, yn euog o bedwar achos o ddynladdiad yn eu herbyn.

Fodd bynnag, fe ddyfarnodd y llys fod gyrrwr y lori 32 o dunelli, Phillip Potter, 20, yn ddieuog o’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

Bu farw Mitzi Steady, 4, o Gaerfaddon, Robert Parker, 59, o Gwmbrân, Philip Allen, 52, a Stephen Vaughan, 34, y ddau o Abertawe ym mis Chwefror y llynedd.

Bydd Matthew Gordon a Peter Wood yn cael eu dedfrydu ar 27 Ionawr a byddan nhw’n aros yn y ddalfa tan hynny.