Mae dau gyn-filwr i ymddangos yn y llys wedi eu cyhuddo o ladd aelod o’r IRA.
Mae’r Gwasanaeth Erlyn Gyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon wedi penderfynu erlyn ‘Milwr A’, sydd nawr yn 67, a ‘Milwr C’, 64, am lofruddiaeth Joe McCann.
Roedd Joe McCann yn un o ymgyrchwyr mwyaf blaenllaw yr IRA swyddogol. Fe gafodd ei saethu’n farw gan batrôl y fyddin yn Belfast ar Ebrill 15 1972.
Cyn-aelodau o’r Gatrawd Parasiwt yw ‘Milwr A’ a ‘Milwr C’, ac maen nhw yn debygol o ymddangos yn y llys flwyddyn nesaf.
Llofruddiaeth heb ei ddatrys
Cafodd y Tîm Ymholiadau Hanesyddol ei sefydlu i ymchwilio achosion o lofruddiaethau heb eu datrys ac yr achos yma fydd yr ail achos o erlyniad milwrol ers yr 1990au.
Cafodd yr ymchwiliad gwreiddiol ei gynnal gan Heddlu Brenhinol Ulster yn 1972 lle penderfynwyd peidio erlyn unrhyw un.