Llai na thraean o bobol gwledydd Prydain sydd am gael gwared â’r ffi drwydded, yn ôl astudiaeth i agwedd y cyhoedd tuag at y BBC.

29% oedd yn cefnogi dod â’r ffi i ben cyn i Siarter Frenhinol newydd y Gorfforaeth ddod i rym – gyda phobol ifancach a phobol ar incwm isel ymhlith y grwpiau mwyaf tebygol o fod o blaid diddymu’r drwydded.

Roedd llai na hanner y bobol yn gwybod faint oedd y drwydded yn gostio – £145.50 –  tra bod 8% yn dweud bod nhw ddim yn talu’r ffi o gwbl.

O’r 1,023 a gafodd eu holi gan gwmni ymchwil Strategy Analytics, roedd 71% yn dweud eu bod yn fodlon â gwasanaeth y BBC.

Pobol hŷn a’r rhai mwy cefnog oedd fwya’ positif tuag at y BBC a’r swm cyfartalog oedd pobol yn fodlon talu oedd £101.57, sy’n 30% yn is na’r pris go-iawn sef £145.50.

Roedd 47% yn anghytuno â’r rheolau newydd ddaeth i rym ym mis Medi, sy’n golygu bod angen trwydded deledu ar bobol i wylio rhaglenni’r BBC ar wefan iPlayer. 40% oedd yn credu mai dyma yw’r peth cywir I’w wneud.

Trafferthion ymgysylltu

Yn ôl y cwmni ymchwil, mae’r gwaith yn dangos bod y BBC yn cael trafferth ymgysylltu â phobol ifanc a phobol ar incwm is, ac maen nhw sydd fwyaf tebygol o wrthwynebu’r ffi drwydded.