Mae deliwr cyffuriau a gafodd ei ddal yn cuddio mewn cwpwrdd gyda dryll wedi cael ei garcharu am 18 mlynedd.

Arestiwyd Jerome Nash yn ei dŷ yn Bushbury, gan heddlu arfog yn ystod oriau man y bore mis Mai’r flwyddyn yma.

Yn ôl datganiad gan Heddlu’r West Midlands, gwnaeth plismyn ddod o hyd i werth £500,000 o grac cocên, heroin a chanabis yn ei gartre.

Plediodd Nash yn euog i gyhuddiadau o feddiant cyffuriau dosbarth A a B gyda’r bwriad o’u gwerthu, meddiant arf a meddiant bwledi.

Dywedodd Ditectif Gwnstabl Keith Jones o Heddlu Wolverhampton: “Mae’r ddedfryd yma yn rhybudd clir y bydd delwyr yn cael ei dal ac yn wynebu cyfnod hir dan glo.”