Mae pobol yn meddwl bod llawer mwy o Fwslimiaid yn byw yng ngwledydd Prydain, nag sydd mewn gwirionedd. Maen nhw hefyd yn credu bod y gyfradd yn tyfu’n gynt nag yw hi, yn ôl arolwg newydd gan Ipsos MORI.

Prif ddiben yr astudiaeth yw tynnu sylw at ba mor anghywir yw rhagamcanion pobol am faterion cenedlaethol a byd-eang, ac mae’n cael ei chynnal mewn mwy na 40 o wledydd ar draws y byd.

Yn ôl yr astudiaeth yng ngwledydd Prydain, roedd pobol o’r farn fod un o bob chwech o drigolion gwledydd Prydain yn Fwslimiaid – mae’r ffigwr yn nes o lawer at un o bob 20.

Roedd pobol hefyd o’r farn y byddai 22% o boblogaeth gwledydd Prydain yn Fwslimiaid erbyn 2020 – mae arbenigwyr yn darogan mai 6% fydd y ffigwr.

Wrth drafod materion rhyngwladol, dywedodd 61% cyn etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau mai Hillary Clinton fyddai’n ennill – dim ond 16% oedd yn disgwyl i Donald Trump sicrhau buddugoliaeth.

Yn ôl Ipsos MORI, po fwyaf mae mater yn cael ei drafod yn y cyfryngau, y lleiaf tebygol yw hi y bydd canfyddiadau’r cyhoedd yn gywir. Maen nhw’n dweud mai tuedd i oramcanu materion sy’n pwyso ar y meddwl sy’n gyfrifol am hyn.

Cafodd oddeutu 1,000 o bobol rhwng 16-64 eu holi yng ngwledydd Prydain, Awstralia, Brasil, Canada, China a Ffrainc.