Mae clwb pêl-droed Chelsea wedi ymddiheuro i’w cyn ergydiwr Gary Johnson ei fod wedi cael ei gam-drin pan oedd yn chwarae i’w tîm ieuenctid.

Mewn datganiad, dywed y clwb fod y chwaraewr “wedi dioddef mewn modd annerbyniol” ac y byddai adolygiad allanol yn archwilio a ddylai fod wedi cynnal ymchwiliad manylach ddwy flynedd yn ôl pan ddaeth rhai o’r pethau hyn i’r amlwg.

Dywed Gary Johnson, sydd bellach yn 57 oed, iddo gael ei gam-drin gan gyn-hyfforddwr o’r enw Eddie Heath, a’i fod wedi cael £50,000 gan y clwb i gadw’n ddistaw. Mae Eddie Heath, a fu hefyd yn brif sgowt y clwb, bellach wedi marw.

Yn ei ddatganiad, dywed Chelsea fod cymal cyfrinachedd o’r fath yn anaddas yn yr achos hwn.

Mae 55 o glybiau pêl-droed wedi cael eu henwi bellach mewn ymchwiliadau gan yr heddlu i honiadau sy’n ymwneud â cham-drin plant.