Mae dogfennau cyfrinachol o gyfnod y Prif Weinidog, Theresa May, fel Ysgrifennydd Cartref yn dangos ei bod am i blant mewnfudwyr anghyfreithlon gael eu rhoi ar waelod rhestrau ar gyfer lleoedd mewn ysgolion.

Mae llythyron a gafodd eu gweld gan y BBC yn dangos bod y Swyddfa Gartref wedi awgrymu y gallai ysgolion dynnu lleoedd plant yn ôl os yw eu teuluoedd yn byw yn y wlad yn anghyfreithlon.

Cafodd y cynnig ei wrthod gan yr ysgrifennydd addysg ar y pryd, Nicky Morgan, a chafodd ei adael allan o’r Bil Mewnfudo.

Llythyr Nicky Morgan

Ysgrifennodd Nick Morgan dros haf 2015 at David Cameron i fynegi ei “phryderon difrifol” dros gynlluniau’r Swyddfa Gartref.

“Mae gennyf bryderon am y problemau ymarferol a phroblemau cyflwyno ein safle cryf ar fewnfudwyr anghyfreithlon i’r mater emosiynol o addysg plant,” meddai yn y llythyr.

“Mae hyn yn cynnwys dad-flaenoriaethau mewnfudwyr anghyfreithlon yn y broses o gael mynediad at ysgolion a gwneud gwiriadau mewnfudo mewn drwy ysgolion.”

Dywedodd hefyd fod y cynllun yn “atgyfnerthu stereoteipiau o’n plaid… gan wastraffu’r cyfle i gipio’r tir canol y mae ethol Jeremy Corbyn wedi rhoi i ni.”

Chafodd Nicky Morgan ddim ei dewis i fod yng nghabinet Theresa May.