Y papur £5 newydd Llun: Joe Giddens/PA Wire
Mae llysieuwyr wedi eu corddi ar ôl i Fanc Lloegr gyhoeddi bod sylwedd sy’n cynnwys braster anifeiliaid wedi cael ei ddefnyddio i gynhyrchu’r papurau £5 newydd.

Cafodd y wybodaeth ei datgelu pan wnaeth Banc Lloegr gyhoeddi neges drydar i gadarnhau bod gwêr, sydd wedi’i wneud o fraster cig eidion neu oen, wedi ffurfio rhan o’r papur polymer newydd.

Mae deiseb yn galw ar y banc i gynhyrchu papurau heb olion gwêr wedi ennyn dros 17,000 o lofnodion hyn yn hyn.

Mae sawl person hefyd wedi dangos anniddigrwydd ar wefannau cymdeithasol, gyda rhai yn galw am gael gwared a’r papurau presennol.

Crëwyd y £5 newydd fel ei fod yn fwy gwydn ac yn medru gwrthsefyll dŵr a baw ac mae’n dilyn esiampl gwledydd fel Awstralia a Seland Newydd sydd eisoes hefo papurau polymer.