Paul Nuttall, arweinydd Ukip, Llun: Stefan Rousseau/PA Wire
Mae Paul Nuttall wedi’i ethol yn arweinydd newydd Ukip.

Enillodd Paul Nuttall 62.6% o’r bleidlais i guro ei wrthwynebwyr Suzanne Evans a John Rees-Evans yn hawdd.

Daw hyn yn dilyn misoedd cythryblus o fewn y blaid wedi i’r arweinydd diwetha’ Diane James gamu o’r neilltu ar ôl 18 diwrnod, gan gyhoeddi’n ddiweddarach ei bod wedi gadael y blaid.

Fe gamodd Nigel Farage yn ôl i’r adwy am gyfnod wedyn, ac wrth gyhoeddi’r arweinydd newydd, dywedodd Nigel Farage ei fod am fod yn gefnogol iawn i Paul Nuttall.

Ychwanegodd y bydd yn parhau i fod yn “wyneb cyfarwydd” wrth gynrychioli’r blaid – yn enwedig wrth greu cysylltiadau a darpar arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump.

“Dw i wedi treulio blynyddoedd yn adeiladu’r blaid hon a fydda i ddim yn camu o’r neilltu yn fuan.

“Llwyddiant diweddar UKIP sydd wedi dweud wrth bobol sydd ddim fel arfer yn pleidleisio, os ydach chi’n dod at eich gilydd fe all y sefydliad brwnt hwn gael ei wyrdroi,” meddai Nigel Farage.