Mae’r heddlu’n credu bod merch a fu farw mewn clwb nos yn Newcastle wedi cymryd MDMA.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i glwb Warehouse yn ardal Byker y ddinas am 4.40 y bore ma.

Cafodd ei chludo i’r ysbyty lle bu farw’n ddiweddarach.

Dywedodd Heddlu Northumbria eu bod yn credu iddi gymryd y tabledi ychydig cyn iddi gael ei tharo’n wael.

Mae dyn 19 oed wedi cael ei arestio mewn perthynas â’i marwolaeth, ac mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.