Mae AS Ceidwadol oedd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd wedi ymddiswyddo fel AS ar unwaith o ganlyniad i “wahaniaethau polisi ddigymod” gyda’r Llywodraeth.

Dywedodd Stephen Phillips – sydd wedi galw dro ar ôl tro ar Theresa May i ddatgelu ei chynllun Brexit i’r Senedd cyn dechrau ar y broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd – ei fod yn “methu cynrychioli ei etholwyr” yn iawn.

Bydd ei ymddiswyddiad yn sbarduno isetholiad yn ei sedd yn Sleaford a Gogledd Hykeham ble’r oedd ganddo fwyafrif o dros 24,000 yn yr etholiad cyffredinol y llynedd.

Daeth ei ymddiswyddiad wedi i’r Uchel Lys ddyfarnu ddoe bod yn rhaid i’r Prif Weinidog gael cymeradwyaeth seneddol cyn dechrau ar y broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r Llywodraeth wedi dweud y bydd yn apelio yn ei erbyn y dyfarniad.

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol bod Stephen Phillips wedi bod yn “aelod gwerthfawr o’r Senedd”.

Ychwanegodd y llefarydd: “Diolchwn iddo am ei waith caled a dymunwn bob llwyddiant iddo yn y dyfodol.”

Dywedodd Ffynhonnell Rhif 10 nad oedd Stephen Phillips wedi siarad â Theresa May cyn ymddiswyddo a bod barn y Prif Weinidog na ddylid cael etholiad cyffredinol cyn 2020 yn parhau i fod yr un fath.