Fe fydd miloedd o wardeniaid carchardai ychwanegol yn cael eu penodi er mwyn taclo problemau’r system â chyffuriau, drôns a defnydd ffonau symudol dan glo.

Bydd troseddwyr yn cael eu profi am gyffuriau wrth gyrraedd a gadael y carchar fel rhan o ddiwygiadau mawr i ddelio â chynnydd mewn achosion o drais a chyffuriau yng ngharchardai Cymru a Lloegr.

Fe ddaw’r cyhoeddiad fisoedd yn unig cyn i un o garchardai mwya’ Ewrop agor yng Nghymru fis Chwefror – carchar Berwyn yn Wrecsam.

Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Liz Truss, gyhoeddi 2,500 o swyddogion carchar ychwanegol i gryfhau’r rheng flaen. Bydd mesurau eraill yn cael eu hystyried er mwyn mynd i’r afael â defnydd cynyddol drôns i ollwng cyffuriau ac eitemau eraill i safleoedd carchardai.

Mae Llywodraeth Prydain yn gweithio gyda chwmnïau ffonau symudol i flocio troseddwyr rhag eu defnyddio.

Targedu ail-droseddu

Bydd y newidiadau hefyd yn targedu cyfraddau ail-droseddu – mae dros 100,000 o droseddau yn cael eu cyflawni’n flynyddol gan gyd-garcharorion, sy’n costio £15 biliwn y flwyddyn i gymdeithas.

Bydd gallu troseddwyr mewn Saesneg a mathemateg yn cael ei brofi er mwyn mesur eu cynnydd dan glo, gyda’r canlyniadau yn cael eu cyhoeddi yng nghynghrair newydd y carchardai.

Mewn araith ddydd Iau, mae disgwyl i Liz Truss ddweud, “Mae’n gwbl gywir bod carchardai yn cosbi pobol sy’n cyflawni troseddau difrifol drwy eu hamddifadu o’u hawl mwya’ sylfaenol: rhyddid.

“Fodd bynnag, mae ein cyfraddau ail-droseddu wedi parhau’n rhy uchel am rhy hir. Felly mae angen i garchardai fod yn fwy ‘na lleoedd cadw’n unig – rhaid iddyn nhw fod yn lleoedd o ddisgyblaeth, gwaith caled a hunan-wellhad.”

Dan y mesurau newydd, os bydd y Prif Arolygydd Carchardai yn canfod methiannau mewn carchar, bydd gan yr Ysgrifennydd Cyfiawnder ddyletswydd cyfreithiol i ymyrryd.

Mae cynnydd mewn trais wedi arwain at rybuddion am gyflwr carchardai, gyda ffigurau’n dangos bod 65 o ymosodiadau’n digwydd dan glo bob dydd.

Galw am fwy na ‘geiriau gwag’

Mae’r ysgrifennydd cyfiawnder cysgodol, Richard Bugon, wedi rhoi’r bai am y trais a’r defnydd cyffuriau ar doriadau’r Ceidwadwyr.

Galwodd am “gynllun cynhwysfawr” gan yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, yn hytrach na “geiriau gwag”.