Mae dyn 24 oed yn cael ei holi mewn cysylltiad â llofruddiaeth dyn o Gaernarfon ym Manceinion dros y penwythnos.

Cafodd corff Phillip Owen, 42 oed, ei ganfod mewn fflat yn ardal Urmston am 7yh nos Sul. Roedd wedi ei drywanu yn ei wddf ac mae’r achos yn cael ei drin fel llofruddiaeth, yn ôl ditectifs.

Roedd Phillip Owen yn gweithio fel labrwr yn y ddinas ac mae ei deulu wedi ei ddisgrifio fel “brawd a mab arbennig”.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Jon Chadwick: “Neithiwr, cafodd dyn ei arestio ar amheuaeth o lofruddio Phillip.

“Mae’n ymchwiliad yn parhau ac rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am farwolaeth Phillip i gysylltu â ni.”