Orgreave yn 1989
Mae pwyllgor trawsbleidiol yn San Steffan wedi galw ar yr Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd, i gefnogi ymchwiliad trawsbleidiol i brotestiadau Orgreave.

Mae pwyllgor Tŷ’r Cyffredin wedi galw arni i roi pwysau ar y Swyddfa Gartref i gydymffurfio’n llawn â’r ymchwiliad drwy gyhoeddi unrhyw ddogfennau perthnasol yn ymwneud â’r digwyddiad ar Fehefin 18, 1984.

Yn dilyn y protestiadau, cafodd 95 o bobol eu cyhuddo o gynnal terfysg ac o ymddwyn yn dreisgar, ond daethpwyd ag achosion i ben, a bu’n rhaid i’r heddlu dalu iawndal iddyn nhw.

Fe gyhoeddodd Amber Rudd ddydd Llun na fyddai ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal i’r ymladd rhwng yr heddlu a phrotestwyr ar y safle yn Ne Swydd Efrog yn ystod Streic y Glöwyr.

Mae Ymgyrch Gwirionedd a Chyfiawnder Orgreave yn astudio llythyr chwe thudalen gan Amber Rudd cyn penderfynu beth fydd eu cam nesa’.

Opsiynau 

Daeth cadarnhad gan Michael Mansfield QC fod arolwg barnwrol yn un opsiwn sy’n cael ei ystyried.

Posibilrwydd arall yw y gallai’r Pwyllgor Dethol Materion Cartref gynnal ymchwiliad dan arweiniad Yvette Cooper.

Yn ôl Amber Rudd, mater i aelodau seneddol yw penderfynu pa fath o ymchwiliad fydd yn cael ei gynnal.

Ymhlith y rhai sydd wedi llofnodi llythyr yn cefnogi ymchwiliad seneddol mae Andy Burnham (Llafur), arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Tim Farron, cyd-arweinydd y Blaid Werdd Caroline Lucas, cyn-arweinydd yr SDLP Mark Durkan ac aelod seneddol yr SNP Joanna Cherry.