Mae dyn 32 oed wedi cael ei arestio ym maes awyr Birmingham ar amheuaeth o ariannu terfysgaeth.

Fe gafodd y dyn o Coventry ei ddwyn i’r ddalfa ddydd Iau yr wythnos hon, a hynny gan swyddogion o uned gwrth-derfysgaeth Heddlu’r West Midlands.

Roedd y dyn newydd hedfan i mewn i Birmingham pan gafodd ei arestio.

Mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw’n gweithredu ar wybodaeth a dderbyniwyd fel rhan o ymchwiliad sy’n parhau.

Mae Heddlu’r West Midlands hefyd yn dweud nad oedd y cyhoedd mewn peryg o ganlyniad i weithredoedd honedig y dyn.