Mae dyn 19 oed wedi marw o ganlyniad i gael ei drywanu ar y stryd.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn adroddiadau fod dyn wedi’i glwyfo yn Ilford yng ngogledd-ddwyrain Llundain, tua 12.40yb ddydd Iau.

Fe gafodd y dyn ei gludo gan barafeddygon i ysbyty yn nwyrain Llundain, lle bu farw’n ddiweddarach.