Mae ymestyn maes awyr Heathrow wedi cael ei gymeradwyo gan Theresa May a’i phwyllgor yn San Steffan.

Yn ôl ffynonellau, mae’r pwyllgor wedi dewis yr opsiwn o adeiladu rynwe arall, a gwrthod yr opsiwn o ehangu maes awyr Gatwick neu ymestyn llain lanio bresennol yn Heathrow.

Unwaith y bydd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth wedi gwneud datganiad i Aelodau Seneddol am 12.30yp heddiw, fe fydd ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau. Fe fydd yr ymgynghoriad hwnnw’n edrych ar effaith tebygol y llain lanio newydd ar orllewin Llundain.

Mae disgwyl i ganlyniadau’r ymgyngoriad gael ei drafod yng ngaeaf 2017/18, a phleidleisio arno.