Llun: Wicipedia
Dylai hysbysebion bwyd sothach gael eu gwahardd yn ystod yr holl raglenni teledu sy’n apelio at blant, yn ôl Cymdeithas Feddygol y Byd (WMA).

Dywedodd y Gymdeithas bod plant yn treulio mwy o amser nag erioed o flaen sgriniau ac maen nhw’n galw ar lywodraethau i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol o ordewdra ymhlith plant.

Mae’r WMA, sydd wrthi’n cynnal ei chynhadledd flynyddol yn Taiwan, wedi dweud bod hysbysebu ar gyfryngau cymdeithasol yn ogystal â chyfryngau traddodiadol yn chwarae rôl flaenllaw yn y galw cynyddol am fwydydd sothach.

‘Gwrthdaro’

Mewn datganiad, dywedodd y WMA: “Mae llawer o hysbysebion yn gwrthdaro gydag argymhellion maeth gan gyrff meddygol a gwyddonol.

“Mae hysbysebion teledu ar gyfer bwyd a diod sydd heb fawr, neu ddim, gwerth maethol yn aml yn cael eu hamserlennu ar gyfer oriau darlledu gyda chrynodiad mawr o wylwyr plant a’u bwriad yw hybu’r awydd i fwyta’r bwydydd hyn.

“Mae hysbysebion yn cynyddu ymateb emosiynol mewn plant ac yn manteisio ar eu hymddiriedaeth. Mae’r dulliau a thechnegau hyn hefyd yn cael eu defnyddio mewn cyfryngau newydd fel rhwydweithiau cymdeithasol, gemau fideo a gwefannau wedi’u hanelu at blant.”

Beirniadu’r Llywodraeth

Mae Adran Iechyd Llywodraeth y DU wedi dod o dan y lach dros y misoedd diwethaf ar ôl cyhoeddi cynllun i fynd i’r afael â gordewdra mewn plant. Mae llawer o sefydliadau iechyd wedi beirniadu’r cynllun oherwydd nad oedd yn cynnwys gwaharddiadau newydd ar hysbysebion bwyd sothach.

Meddai llefarydd ar ran yr Adran Iechyd bod cyfyngiadau’r DU ar hysbysebu bwydydd sothach eisoes yn rhai o’r llymaf ac mae’r Llywodraeth yn disgwyl i’r diwydiant bwyd i gymryd camau cadarn i wneud eu bwyd yn iachach.