Mae’r heddlu’n dal i holi dyn 19 oed ar ôl i ddyfais amheus gael ei darganfod ar drên danddaearol yn Llundain.

Cafodd y dyn ei arestio ar Holloway Road yng ngogledd Llundain brynhawn ddoe mewn cyrch yn dilyn y darganfyddiad ar drên yng ngorsaf North Greenwich fore Iau.

Dywedodd llefarydd ar ran Scotland Yard:

“Cafodd y dyn 19 oed ei arestio ar amheuaeth o gomisiynu, paratoi ac ysgogi gweithredoedd o derfysgaeth o dan Adran 41 o Ddeddf Terfysgaeth 2000.

“Mae wedi cael ei gymryd i orsaf heddlu yn Llundain lle mae’n dal i fod yn y ddalfa.”

Fe fu gorsaf North Greenwich ar gau drwy ddydd Iau ar ôl y digwyddiad. Er nad oes cadarnhad swyddogol hyd yma, mae adroddiadau bod y ddyfais yn un a allai fod wedi achosi ffrwydrad