Dros y flwyddyn ddiwethaf, fe wariodd pobol gwledydd Prydain £7.9 biliwn mewn siopau coffi.

Yr yfwyr mwya’ brwd, mae’n debyg, yw myfyrwyr, gan mai siop goffi yw’r gwasanaeth mwya’ poblogaidd yn yr undebau myfyrwyr.

Yn ôl ffigurau YouthSight ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, mae 87% o fyfyrwyr Prydain yn gwario eu harian yn y caffis hyn.

Ac mewn blwyddyn, mae gwerthiant diodydd poeth undebau myfyrwyr wedi cynyddu 11%, gan awgrymu bod myfyrwyr erbyn hyn yn fwy parod i wario ar eu coffi nag ar alcohol.

Roedd hi’n Ddiwrnod Rhyngwladol Coffi yr wythnos hon, a phobol ledled y byd yn dathlu.