Ben Emmerson - wedi ymddiswyddo (Llun Chatham House CCA 2.0)
Dyw’r ymchwiliad cenedlaethol  i mewn i gam-drin plant yng ngwledydd Prydain yn gweithio ar ei ffurf bresennol yn ôl grŵp sy’n cynrychioli dioddefwyr.

Mae’r ymchwiliad mewn trafferthion ar ôl ymddiswyddiad ei uwch gyfreithiwr ac mae galwadau am rannu’r ymchwiliad yn adrannau llai.

Dywedodd cadeirydd yr ymchwiliad, yr Athro Alexis Jay, ei bod hi wedi derbyn penderfyniad Ben Emmerson QC i roi’r gorau i’w swydd yn uwch gyfreithiwr ar ôl dwy flynedd yn y swydd ac ar ôl iddo gael ei atal tros dro.

Mae’r datblygiad wedi cael ei alw’n “drychineb” i’r ymchwiliad problemus sydd o dan ei bedwerydd cadeirydd.

‘Angen sicrwydd’

Dywedodd Raymond Stevenson sy’n llefarydd ar ran y rhai gafodd eu cam-drin mewn cartrefi plant yn Lambeth, de Llundain, bod rhaid i ddioddefwyr gael eu hargyhoeddi nad “syrcas yn unig” yw’r ymchwiliad.

Mae AS Llafur Chuka Umunna hefyd wedi dweud nad yw’n gweithio yn ei ffurf bresennol ac mae wedi awgrymu y dylai 13 elfen wahanol yr ymchwiliad gael eu rhannu o dan eu cadeiryddion eu hunain sy’n adrodd i’r gadeirydd yr ymchwiliad cyffredinol o dan reolaeth yr Athro Jay.