Dymchwel y gwersyll i ffoaduriaid yn Calais Llun: O gyfrif Twitter @HelpRefugeesUK/PA
Mae Arlywydd Ffrainc Francois Hollande wedi dweud y dylai gwledydd Prydain “wneud eu rhan” yn yr ymdrech i fynd i’r afael a’r argyfwng ffoaduriaid yn Calais wrth i Ffrainc baratoi at gau gwersyll ‘y Jyngl’.

Mae’r gwaith eisoes wedi dechrau ar godi wal goncrid bedwar metr o uchder a 1,000 o fetrau o hyd  ger y brif draffordd sy’n arwain at borthladd Calais.

Ond mae Aelod Seneddol Dover, Charlie Elphicke, yn mynnu bod gwledydd Prydain wedi cyfrannu digon at yr achos ac y dylai arian y trethdalwyr fynd yn hytrach tuag at gryfhau diogelwch yn Dover.

“Mae Prydain eisoes wedi talu am waliau a ffensys yno ond mae’r Ffrancwyr yn gofyn am fwy,” meddai’r AS. “Rydym ni wedi clywed son am gau’r gwersyll o’r blaen, ond mae’n rhaid gwneud yn siŵr ei fod yn digwydd y tro hwn.”

Fe gyhoeddodd Francois Hollande ddydd Sadwrn y byddai’n cau’r gwersyll ac y byddai’r 9,000 o bobol sy’n cael lloches yno yn gorfod gwneud cais am le yn un o ganolfannau eraill Ffrainc.