Mae disgwyl i arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn barhau i ad-drefnu ei gabinet cysgodol heb roi pleidlais i aelodau seneddol y blaid.

Mae Pwyllgor Gwaith y blaid wedi cytuno i ohirio penderfyniad ar etholiadau tan fis Tachwedd, ac fe fydd ymgynghoriad cyn cynhadledd arbennig.

Pleidleisiodd aelodau seneddol ddechrau’r mis i gael pleidlais er mwyn cael mwy o ddylanwad ar y cabinet cysgodol.

Mae disgwyl ad-drefnu yn fuan ar ôl i Corbyn ddal ei afael ar yr arweinyddiaeth gyda 61% o’r bleidlais ddydd Sadwrn.

Ond mae gwrthod rhoi llais i aelodau seneddol yn golygu ei bod hi’n annhebygol y bydd ei gyn-weinidogion yn fodlon dychwelyd i’r cabinet cysgodol.

Dywedodd Corbyn wrth raglen Peston ar ITV na fyddai gweinidogion oedd yn cefnogi Owen Smith yn y ras am yr arweinyddiaeth yn cael eu dad-ddewis gan y blaid pan fydd ffiniau’n cael eu had-drefnu.