Kashmir
Mae adroddiadau’n awgrymu bod actor a gafodd ei eni ym Mhacistan wedi cael ei ddiswyddo gan benaethiaid yr opera sebon ‘Coronation Street’ ar ôl cyhoeddi negeseuon hiliol am bobol Indiaidd ar ei dudalen Twitter.

Yn ôl y Sunday Mirror, fe fu Marc Anwar yn lladd ar bobol Indiaidd nos Wener, ac fe gafodd ei ddiswyddo ar unwaith ar ôl i’r papur ddwyn sylw ITV i’r mater.

Fe fu Anwar, 45, yn chwarae rhan Sharif Nazir.

Cyhoeddodd y papur luniau o’r negeseuon, oedd yn beirniadu agwedd India at ranbarth Kashmir ar y ffin â Phacistan, ac yn galw ar actorion o Bacistan i beidio â mynd i weithio yno.

Mewn datganiad, dywedodd ITV fod y negeseuon yn “gwbl annerbyniol” a bod Anwar wedi cael ei ddiswyddo ar unwaith.