Luke McCall, Adam Lewis a Thywysog Cymru (Llun: PA)
Fe gafodd un o aelodau Cymraeg y sioe gerdd, Phantom of the Opera, dipyn o sioc ei hun tra allan yn loncian yn Llundain ddoe.

Roedd y canwr, Luke McCall, sy’n hanu o’r Bala, wedi mynd allan i redeg gyda’i gyd-actor, Adam Lewis, yn Greeen Park ym mhrifddinas Lloegr, pan gawson nhw gyfarwyddyd gan blismones i newid ychydig ar eu llwybr.

Yn dod i’w cyfarfod, fe welson nhw nifer o ddynion mewn siwtiau – ac yn eu plith, roedd Luke McCall, 24, yn siwr iddo weld Tywysog Cymru. Doedd Adam Lewis, sy’n wreiddiol o Ben-y-bont ar Ogwr, ddim mor sicr…

Ond, yn y ffotograff hwn, sydd wedi gwneud y rownds ar y gwefannau cymdeithasol, mae’n amlwg fod y ddau berfformiwr wedi cael dipyn o sioc!