Mae cwpwl sydd wedi ysgaru wedi talu costau cyfreithiol o £60,000 i gael gwerth brawddeg o gyngor gan farnwr yn yr Uchel Lys.

Roedd yr achos yn ymwneud â merch 15 oed y pâr o Rwsia.

Dywedodd y barnwr y dylai’r cwpwl rannu’r costau – ac y dylai’r ddynes dalu peth o gostau ei chyn-ŵr – ar ôl iddi dderbyn cyngor anghywir gan ei chyfreithiwr.

Dydy’r barnwr ddim wedi caniatâu cyhoeddi manylion y teulu, ond mae lle i gredu bod yr achos wedi cael sylw yn llysoedd Lloegr a Rwsia dros gyfnod hir o amser.

Daeth y barnwr mewn achos blaenorol i’r casgliad fod gorchymyn mewn llys yn Rwsia yn ddilys yn Lloegr hefyd fel rhan o gonfensiwn rhyngwladol.

Wrth grynhoi’r achos, dywedodd y barnwr fod modd crisialu’r cyfan “mewn un frawddeg”, sef “nad oedd gan y llys Seisnig yr hawl i gydnabod gorchymyn y llys Rwsiaidd ar 18 Ebrill 2013 gan nad oedd Confensiwn yr Hâg 1996 mewn grym rhwng Lloegr a Chymru a Ffederasiwn Rwsia ar 18 Ebrill 2013.”

Dywedodd fod y costau’n “rhyfeddol” a bod yr ateb yn “ddigamsyniol o’r dechrau’n deg”.