Yr Arlywydd Barack Obama a'r Prif Weinidog Theresa May ar drothwy cynhadledd gwledydd y G20 yn Hangzhou, China (llun: AP)
Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi rhybuddio’r Prif Weinidog Theresa May nad cytundeb masnach â Phrydain fydd blaenoriaeth America.

Yn ei gyfarfod cyntaf â Theresa May ers iddi ddod yn Brif Weinidog, dywedodd yr arlywydd ei fod yn gresynu at y bleidlais Brexit ym Mhrydain.

“Ro’n i’n credu cyn y bleidlais Brexit ac yn dal i gredu ar ôl y bleidlais Brexit fod y byd yn elwa’n aruthrol ar gael y Deyrnas Unedig yn chwarae rhan yn yr Undeb Ewropeaidd,” meddai.

Mae’r ddau arweinydd yn China ar gyfer cynhadledd gwledydd y G20.

Dywedodd Barack Obama mai blaenoriaeth America fydd canolbwyntio ar bartneriaeth masnach Gwledydd y Môr Tawel a’r cytundeb TTIP rhwng yr Unol Daleithiau a’r Undeb Ewropeaidd.

“Rhaid i Brydain ganolbwyntio ar gytundeb â Brwsel fel ei phrif flaenoriaeth,” ychwanegodd.

Dywedodd Llywydd yr Undeb Ewropeaidd, Donald Tusk, na fydd unrhyw drafodaethau rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd hyd nes y bydd y Llywodraeth yn gweithredu Erthygl 50 i gychwyn y broses o adael yn ffurfiol.

“Nid fyddai trafodaethau rhagbrofol o’r fath er budd y 27 o aelodau sydd ar ôl,” meddai.

“Mae angen inni warchod buddiannau’r aelodau o’r Undeb Ewropeaidd sydd eisiau aros gyda’i gilydd, nid buddiannau’r un sydd eisiau gadael.”