Llun: PA
Mae angen gweithredu ar frys i roi rhagor o gymorth i fenywod beichiog a mamau newydd yn y gweithle, ar ôl i waith ymchwil ddatgelu cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o wahaniaethu dros y 10 mlynedd ddiwethaf, meddai adroddiad seneddol.

Mae ASau’r Pwyllgor Seneddol ar Hawliau Merched a Chydraddoldeb yn galw am system debyg i’r Almaen sy’n gwahardd cyflogwyr rhag diswyddo merched pan maen nhw’n feichiog neu ar gyfnod mamolaeth, oni bai bod amgylchiadau eithriadol penodol.

Fe alwodd y pwyllgor hefyd am ostyngiad  “sylweddol” yn y gost o £1,200 i ferched er mwyn dwyn achos tribiwnlys mewn achosion o wahaniaethu yn erbyn menywod beichiog.

Mae adroddiad y pwyllgor yn cyhoeddi ffigurau sy’n dangos bod nifer y merched beichiog a mamau newydd, sy’n cael eu gorfodi i adael eu swyddi oherwydd pryderon am ddiogelwch eu plentyn neu wahaniaethu yn erbyn merched beichiog, wedi dyblu dros y degawd diwethaf i 54,000.

Mae’r pwyllgor yn annog gweinidogion i gyhoeddi “cynllun uchelgeisiol a manwl” o fewn y ddwy flynedd nesaf i wella hawliau gwaith merched beichiog a mamau newydd. Maen nhw’n rhybuddio y bydd merched yn cael eu gorfodi i adael eu swyddi oni bai bod y system yn newid.