Yr anhrefn ar yr M20 brynhawn ddoe (llun: Steve Parsons/Gwifren PA)
Mae disgwyl i draffordd yr M20 yn ne-ddwyrain Lloegr ailagor heddiw ar ôl i bont droed ddymchwel arni, gan achosi anhrefn traffig ar un o benwythnosau prysuraf y flwyddyn.

Dymchwelodd y bont rhwng cyffyrdd 3 a 4 brynhawn ddoe ar ôl i beiriant jac codi baw a oedd yn cael ei gludo ar lori ei tharo.

Aed â beiciwr modur i’r ysbyty yn Tunbridge Wells a derbyniodd gyrrwr y lori driniaeth am sioc yn y fan a’r lle.

Yr M20 yw’r brif draffordd tuag at dwnel y sianel a phorthladd Dover.