Syr (?) Richard Branson (David Shankbone CCA 3.0)
Mae Canghellor yr Wrthblaid, John McDonnell, wedi galw am ddileu teitl ‘syr’ perchennog Trenau Virgin, Richard Branson.

Daw hyn yn sgil y ffrae rhwng Richard Branson ac arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, a oedd wedi honni nad oedd lle i eistedd ar un o’i drenau yr wythnos ddiwethaf.

Mae John McDonnell yn cyhuddo Richard Branson o ymyrryd yn y broses ddemocrataidd ar ôl i’r cwmni ryddhau lluniau camera teledu cylch cyfyng a oedd fel petaen nhw’n gwrthbrofi honiadau Corbyn. Mae’r lluniau’n ei ddangos yn cerdded heibio i seddau gwag cyn mynd i gael ei ffilmio’n eistedd ar lawr.

Yn ôl John McDonnell, sy’n galw am ddiwygio’r system anrhydeddau, dyn sydd wedi gadael y wlad i osgoi trethi yw Richard Branson, “sy’n meddwl y gall geisio ymyrryd yn ein democratiaeth a’i danseilio”.

“Mae holl ddiben y system anrhydeddau yn cael ei thanseilio pan fo’r cyfoethog a’r pwerus yn cael gongs heb roi dim byd yn ôl,” meddai. “Mae’n waeth fyth pan fo alltudion trethi’n cael anrhydeddau.

“Dylai fod yn ddewis syml i’r mega-gyfoethog. Rhedwch i ffwrdd fel alltud treth os mai dyna sydd arnoch ei eisiau. Ond gadewch eich teitlau a’ch anrhydeddau ar ôl pan fyddwch yn mynd.”