Owen Smith (llun: Andrew Matthews/Gwifren PA)
Fel rhan o’i ymgyrch i ddisodli Jeremy Corbyn fel arweinydd Llafur, mae Owen Smith yn galw am ddileu ffioedd dysgu i fyfyrwyr.

Dywed y byddai’n cyflwyno treth o 1% neu 2% i raddedigion i gymryd eu lle.

“Mae ein pobl ifanc wedi cael eu gadael i lawr dro ar ôl tro gan y Llywodraeth yma,” meddai Owen Smith mewn araith ym mhrifysgol Nottingham.

“Mae’r addewid o siawns i bob cenhedlaeth wneud yn well na’r genhedlaeth o’i blaen wedi’i chwalu.

“Mae pobl ifanc heddiw’n fwy tebygol o fod yn ddi-waith, yn llai tebygol o gael prentisiaeth, mewn mwy o ddyled ac yn llai tebygol o fod yn berchen eu cartref eu hunain.

“Os caf fy ethol yn arweinydd Llafur, byddaf yn cynnig bargen well i bobl ifanc.”

O dan ei gynlluniau i ddileu ffioedd dysgu, byddai graddedigion yn talu 1-2% yn ychwanegol o dreth incwm uwchlaw £15,000 dros gyfnod penodol, a allai fod tua 25 mlynedd ar ôl gadael y brifysgol.