Mae un o arbenigwyr y rhaglen Antiques Roadshow, sy’n fab i’r actor enwog Syr Michael Gambon, wedi darganfod Tŷ Dol o 1705 sydd werth £150,000.

Roedd Fergus Gambon yn ffilmio’r sioe yn Tewkesbury Abbey yn Sir Gaerhirfryn pan roddwyd casgliad o ddoliau 300 oed iddo eu gwerthuso.

Yna fe ddywedodd perchennog y doliau fod ganddo dŷ dol adref oedd mewn un darn ac yr un fath ers canrifoedd.

Fe gafodd perchnogion y tŷ doliau sioc o glywed beth yw ei werth.

Fe gafodd y tŷ dol ei adeiladu yn 1705 ar yr Isle of Dogs ar gyfer Miss E Westbrook. Ac mae wedi bod yn nheulu’r perchennog gwreiddiol ers hynny, yn cael ei drosglwyddo o un genhedlaeth fenywaidd i’r nesaf ar hyd y canrifoedd.

Yn ôl Fergus Gambon dyma “un o’r tai babi Saesneg pwysicaf sy’n bodoli”.

Cewch weld y tŷ dol ar The Antiques Roadshow nos Sul yma am wyth ar BBC One.