Cyffuriau cyfreithlon - gynt (o wefan y Gwasanaeth Iechyd)
Mae bron i 200 o bobol wedi cael eu harestio yn y tri mis ers i waharddiad llwyr ar gyffuriau cyfreithlon – neu ‘legal highs’ – ddod i rym.

Mae myw na 300 o siopau wedi rhoi’r gorau i werthu’r sylweddau ‘seicoweithredol’ a 24 wedi cael eu cau.

Ond fe ffoniodd cyn-ddefnyddiwr cyffuriau o Gymru raglen radio i ddweud bod cyffur oedd wedi efffeithio’n ddrwg arno ef yn dal i fod ar gael yn hawdd.

‘Calonogol’

“Mae’r cyffuriau peryglus hyn eisoes wedi cymryd llawer gormod llawer o fywydau,” meddai Gweinidog Diogelu Llywodraeth Prydain, Sarah Newton.

“Mae’n galonogol gweld – mewn tri mis – bod yr heddlu yn defnyddio eu pwerau newydd i gymryd gwerthwyr oddi ar ein strydoedd a bod cynifer o fanwerthwyr wedi methu â chael y cyfle i elwa o’r masnach hwn.”

Mae nifer o sylweddau cyfreithlon fel bwyd, alcohol, tybaco a chaffîn wedi eu heithrio o’r ddeddfwriaeth.

Y cefndir

Daeth Ddeddf Sylweddau Seicoweithredol i rym ym mis Mai er mwyn cyfyngu ar gynhyrchu, cyflenwi a mewnforio sylweddau seicoweithredol newydd.

Fe all troseddwyr wynebu saith mlynedd yn y carchar o dan y ddeddf.