Mae aelod sy’n gwasanaethu yn lluoedd arfog Prydain wedi cael ei arestio yng Ngwlad yr Haf ar amheuaeth o droseddau brawychol sy’n gysylltiedig â Gogledd Iwerddon, yn ôl Scotland Yard.

Cafodd y dyn 30 mlwydd oed ei arestio am oddeutu 12:20yp mewn tŷ yn ne Dyfnaint, meddai Scotland Yard, ac mae ardal goediog yn cael ei chwilio.

Cafodd ei arestio ar amheuaeth o baratoi ar gyfer gweithredoedd brawychol fel rhan o ymchwiliad i frawychiaeth sy’n gysylltiedig â Gogledd Iwerddon.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn eu bod nhw’n ymwybodol o ymchwiliad yr heddlu ac y byddan nhw’n cydweithredu’n llawn.