Mae Tesco wedi penderfynu cael gwared a baner yr Alban ar becynnau o ffrwythau sy’n dod o’r Alban yn dilyn cwynion.

Roedd yr archfarchnad yn cynnwys y faner ar amrywiaeth o gynnyrch o’r Alban sy’n cael ei werthu ledled y DU.

Fodd bynnag, erbyn hyn mae wedi cael ei ddisodli gan faner Jac yr Undeb, gan gynnwys yn yr Alban.

I ddechrau, dywedodd Tesco ar Twitter bod y penderfyniad wedi ei wneud gan fod cwsmeriaid o Loegr wedi gofyn pam nad oedd pecynnau o ffrwythau o Loegr yn cynnwys baner San Siôr er bod ffrwythau o’r Alban yn cynnwys baner yr Alban ar y pecyn.

Fodd bynnag, mae Tesco erbyn hyn wedi diweddaru’r datganiad ac wedi ymbellhau ei hun o’r rhesymeg wreiddiol gan ddweud mai er “mwyn darparu cysondeb ar gyfer cwsmeriaid” y maen nhw wedi penderfynu rhoi baner Jac yr Undeb ar ffrwythau ffres sy’n cael eu tyfu yn y DU.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y cwmni y byddai’r wlad ble cafodd y ffrwythau eu tyfu “hefyd yn cael ei harddangos yn glir ar y pecyn.”

Daeth y newid i’r amlwg ar ôl i gwsmer, Eileen Brown, drydar y cwmni yn holi pam bod y newid wedi ei wneud.

Meddai Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon: “Efallai y dylem ystyried tybed beth fyddai’r ymateb wedi bod petai Jac yr Undeb wedi cael ei dynnu oddi ar becynnu oherwydd cwynion yn yr Alban. Felly, ym mha bynnag ffordd y bydd hyn yn digwydd, gobeithio y bydd synnwyr cyffredin yn ennill y dydd. ”

Mae golwg360 wedi gofyn i Tesco os yw’r penderfyniad yn effeithio ar becynnau o gynnyrch o Gymru hefyd.