Llun: PA
Mae nifer y bobol sy’n cael cymorth ar ôl dioddef o gaethwasiaeth yng Nghymru a Lloegr wedi cynyddu, yn ôl un elusen.
Dywed Byddin yr Iachawdwriaeth (Salvation Army) eu bod wedi helpu tua 4,500 o bobol sy’n dioddef o gaethwasiaeth fodern yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf.
O’r rheiny, fe gafodd 1,800 o ddioddefwyr o gaethwasiaeth gymorth y llynedd, sy’n gynnydd o 378 o gymharu â’r blynyddoedd cynt.
Er hyn, mae’r Swyddfa Gartref yn dal i amcangyfrif bod rhwng 10,000 a 13,000 o gaethweision yn dal i fyw yn y Deyrnas Unedig.
Am hynny, mae un o gyfarwyddwyr Byddin yr Iachawdwriaeth, Anne Read, yn awgrymu “efallai bod y cynnydd yn y nifer sy’n cael eu cefnogi yn awgrymu bod mwy yn dioddef.”
Galw am godi ymwybyddiaeth
Mae’r elusen hefyd yn galw am godi mwy o ymwybyddiaeth am gaethwasiaeth er mwyn ei atal rhag digwydd.
O’r dioddefwyr a gafodd gymorth gan yr elusen, roedd bron hanner ohonynt wedi’u hecsbloetio yn rhywiol, 42% wedi’u gorfodi i weithio ac 13% wedi’u dal mewn caethiwed ddomestig.
Roedd 62% yn ferched, 38% yn ddynion a chwech yn drawsrywiol, gyda’r nifer mwyaf yn dod o Albania, Gwlad Pwyl, Nigeria a Fietnam ynghyd â “chyfran sylweddol” o ddinasyddion Prydeinig.
Fe wnaeth y Prif Weinidog Theresa May gyflwyno’r Ddeddf Gaethwasiaeth Fodern y llynedd pan oedd yn Ysgrifennydd Cartref.