Canol Halstead (Robert Edwards CCA2.0)
Mae bachgen wedi marw ar ôl cael ei frathu gang i – yr ail ymosodiad o’r fath mewn pedwar diwrnod.

Tair oed oedd y bachgen ac fe fu farw yn yr ysbyty ar ôl yr ymosodiad yn hwyr brynhawn ddoe yn Halsteaed, Essex.

Mae gwraig 29 oed wedi cael ei harestio ac mae’r ci bellach yn nwylo’r heddlu.

Ymosodiad ddydd Llun

Ddechrau’r wythnos, fe gafodd dyn 52 oed ei ladd yn Huddersfield wrth iddo geisio amddiffyn ei gi ei hun rhag ymosodiad gan gi arall.

Does dim llawer o fanylion eto am yr ymosodiad yn Essex, ond roedd y bachgen wedi ei gludo i Ysbyty Addenbrooke’s yng Nghaergrawnt mewn  ymgais seithug i geisio’i achub.