Mae dyn 36 oed wedi cael triniaeth am anafiadau i’w ben a’i goes yn dilyn ffrwgwd ar draffordd yr M1 ger Caerlŷr.

Cafodd yr heddlu eu galw ddydd Mercher yn dilyn adroddiadau bod dau griw o ddynion yn ymladd ar lain galed ac un lôn o’r draffordd.

Ychydig cyn y ffrwgwd, mae lle i gredu bod tri dyn mewn Audi A4 wedi bod yn dilyn tri dyn arall mewn Vauxhall Astra. Daeth y ceir i stop ger cyffordd 23 yr M1 ac fe ymosododd y dynion yn yr Astra ar y dynion yn yr Audi.

Cafodd y dyn driniaeth yn yr ysbyty yng Nghaerlŷr wedi’r digwyddiad.

Mae’r heddlu wedi apelio am dystion.