Mae’r dyn 48 oed o Sir Amwythig sydd wedi marw ar ôl iddo gael ei saethu â gwn Taser yr heddlu, wedi’i enwi fel cyn bêl-droediwr Aston Villa, Dalian Atkinson.

Fe gafodd swyddogion eu galw i gyfeiriad yn Telford, Swydd Amwythig, tua 1.30yb heddiw, wedi iddyn nhw dderbyn adroddiadau am “bryderon am ddiogelwch unigolyn”.

Fe gafodd gwn Taser ei ddefnyddio gan y plismyn wrth ymdrin â’r dyn ac, er iddo dderbyn triniaeth feddygol, bu farw awr a hanner yn ddiweddach, tua 3yb, meddai datganiad gan Heddlu West Mercia.

Mae’r achos wedi’i gyfeirio at Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC).