Mae’r biliwnydd, Dug Westminster wedi marw’n sydyn yn 64 oed.

Cafodd Gerald Cavendish Grosvenor ei gludo i’r ysbyty yn Preston, Sir Gaerhirfryn o’i ystad yn Abbeystead brynhawn dydd Mawrth, ar ôl diodde’ trawiad ar y galon.

Roedd yn berchen ar ffortiwn gwerth bron i £8.3 biliwn, ac ymhlith ei diroedd roedd darn o dir yn Helygain, Sir y Fflint.

Yn ôl Forbes, ef yw’r 68fed biliwnydd mwyaf cyfoethog yn y byd, ac mae’n drydydd ar restr cyfoethogion gwledydd Prydain. Roedd yn berchen ar 190 erw yn Belgravia yn Llundain, a darnau eraill o dir yn yr Alban a Sbaen.

Roedd yn gefnogwr brwd o’r byd amaeth, gan roi £500,000 i’r diwydiant adeg clwy’r traed a’r genau yn 2001.