Mae dau ddyn ifanc wedi’u harestio ar amheuaeth o droseddau’n ymwneud â Syria.
Fe gafodd y dynion, 26 a 32 oed, eu dwyn i’r ddalfa yn Coventry, a hynny ar amheuaeth o ariannu terfysgaeth. Mae Uned Gwrth-Derfysgaeth y West Midlands wedi bod yn y ddau gyfeiriad ben b
ore heddiw.
“Mae hyn yn rhan o ymchwiliad sy’n parhau, ac mae wedi digwydd oherwydd bod pobol wedi dod atom efo gwybodaeth,” meddai llefarydd ar ran Heddlu’r West Midlands.
“Doedd yna ddim bygythiad uniongyrchol i ddiogelwch y cyhoedd.”
Ail waith mewn wythnos
Dyma’r ail dro o fewn wythnos i heddlu arestio pobol yn Coventry ar amheuaeth o fod yn gysylltiedig â therfysgaeth yn Syria.
Ddydd Mercher diwetha’, Awst 3, fe gafodd dau ddyn, 38 a 40 oed, eu harestio mewn cyfeiriadau gwahanol ar amheuaeth o ariannu terfysgaeth, cyn cael eu rhyddhau ar fechnïaeth yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.