Llun: PA
Mae Ofgem yn bwriadu bwrw mlaen a chynlluniau i gyflwyno cap ar filiau pobl sy’n talu am nwy a thrydan o flaen llaw, fe gyhoeddodd rheoleiddiwr y diwydiant heddiw.

Daw’r ymateb yn dilyn adroddiad a gyhoeddwyd gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) ym mis Mehefin – a oedd yn amlinellu ffyrdd y gallai’r farchnad gael ei gwella i gwsmeriaid.

Fe gyhoeddodd Ofgem heddiw y bydd yn gweithio’n agos gyda chyflenwyr i helpu cwsmeriaid sy’n parhau ar dariffau drud.

Dywedodd y prif weithredwr Dermot Nolan bod adroddiad y CMA yn “arwain y ffordd at ddyfodol tecach a mwy cystadleuol. Rwy’n galw ar gwmnïau ynni  a grwpiau sy’n cynrychioli cwsmeriaid i fanteisio ar y cyfle.”

Dywed Ofgem y bydd y cap yn ceisio helpu’r “mwyaf bregus a’r rhai sydd lleiaf tebygol o droi at gwmni ynni arall” ac y bydd yn arbed tua £75 y flwyddyn iddyn nhw o fis Ebrill nesaf.

Y flwyddyn nesaf, dywed y rheoleiddiwr y bydd hefyd yn cynnal cynllun peilot i sefydlu gwasanaeth a fydd yn cynnig cytundebau rhatach i gwsmeriaid sydd ar gytundebau tair blynedd a mwy.

Mae’r Chwe Chwmni Mawr yn cyflenwi ynni i tua 90% o gwsmeriaid domestig yn y DU.