Porthladd Dover
Fe dreuliodd nifer o yrwyr oedd ar eu ffordd i borthladd Dover, y noson yn cysgu yn eu ceir neithiwr. Ac mae’r heddlu yn Lloegr ac yn Ffrainc yn rhybuddio y gallai oedi mawr bara tan ddydd Llun.

Mae swyddogion Prydeinig yn cael eu drafftio i mewn i weithio gyda heddlu Ffrainc, wedi i’r llywodraeth gyfadde’ bod teithiwyr wedi diodde’ “oedi anghyffredin” wrth geisio croesi i’r cyfandir ddoe.

Roedd rhai teithwyr – nifer fawr yn cychwyn ar eu gwyliau haf – wedi treulio hyd at 15 awr ar stop mewn ciwiau o draffig, tra’r oedd cyflenwad o ddwr potel yn cael ei rannu yn eu plith gan hofrennydd yr heddlu.

Yn ôl Heddlu Kent, “niferoedd fawr o geir gwyliau” sydd i gyfri’ am yr oedi… hynny a mesurau diogelwch llymach ar y ffin â Ffrainc yn wyneb ymosodiadau terfysgol diweddar yn y wlad honno.