Wynebau'r cythrwfl ger McDonald's Marble Arch
Mae ditectifs sy’n ymchwilio noson o gwffio yng nghanol Llundain yn gynharach yr wythnos hon, wedi rhyddhau lluniau o fwy na dwsin o bobol y maen nhw’n awyddus i’w hadnabod a’u holi.

Mae’r delweddau diweddara’ hyn yn gysylltiedig â’r ymladd a’r anhrefn ym mwyty McDonald’s, Marble Arch.

Roedd hyd at 4,000 o bobol wedi crynhoi ar lannau afon Serpentine brynhawn Mawrth, wrth i brifddinas Lloegr fwynhau diwrnod poetha’r flwyddyn hyd yn hyn… ond fe drodd y dathliadau yn ymosodol wrth i’r noson fynd yn ei blaen.

Fe gafodd tri o bobol, yn cynnwys plismon, eu trywanu yn ystod y trais ar strydoedd Marble Arch, ychydig lathenni oddi wrth siopau Oxford Street. Fe gafodd ail blismon ei anafu gan botel a gafodd ei thaflu.

Mae Scotland Yard wedi enwi 20 o bobol y maen nhw’n awyddus i’w darganfod.