Michael Gove, Llun: PA
Mae Michael Gove wedi colli ei swydd fel Ysgrifennydd Cyfiawnder wrth i Theresa May barhau i ffurfio ei Chabinet heddiw.

Roedd Michael Gove yn un o’r ffigurau blaenllaw yn yr ymgyrch dros adael yr UE ond mae’n debyg mai ei benderfyniad i sefyll yn y ras am arweinyddiaeth y blaid sydd wedi arwain at golli ei le yn y Cabinet.

Bu’n Ysgrifennydd Cyfiawnder am 14 mis ond roedd ei benderfyniad i sefyll fel ymgeisydd yn erbyn Boris Johnson yn cael ei ystyried fel brad gan lawer o ASau Torïaidd, ac yn ymddangos fel cam yn rhy bell i Theresa May.

Mewn cam annisgwyl gan y Prif Weinidog newydd, cafodd Boris Johnson ei benodi’n Ysgrifennydd Tramor neithiwr.

Dywedodd Michael Gove ar Twitter ei bod hi wedi bod yn “fraint aruthrol i wasanaethu am y chwe blynedd diwethaf” a dymunodd “pob lwc” i’r llywodraeth newydd.

Mae Liz Truss yn olynu Michael Gove fel yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, meddai Downing Street. Hi oedd yr Ysgrifennydd Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ac mae’n un o nifer o ferched mae disgwyl i Theresa May benodi i’r Cabinet.

Liz Truss fydd yr Arglwydd Ganghellor benywaidd cyntaf ers i’r rôl gael ei sefydlu fil o flynyddoedd yn ôl.

Jeremy Hunt yn cadw ei swydd

Mae Jeremy Hunt yn aros fel Ysgrifennydd Iechyd er gwaetha’r ffaith bod ei gyfnod yn y swydd wedi bod yn un dadleuol tu hwnt wrth iddo geisio gorfodi cytundeb newydd ar feddygon iau yn Lloegr.

Ac mae prif gystadleuydd Theresa May yn ras am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol, Andrea Leadsom, wedi cael ei phenodi’n Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Er mai dim ond  ers 2010 y mae hi wedi bod yn Aelod Seneddol, roedd disgwyl iddi gael lle yn y Cabinet oherwydd ei phroffil uchel yn ystod yr ymgyrch yn refferendwm yr UE.

Roedd hi wedi camu o’r neilltu fel ymgeisydd yn y ras gan ganiatáu i Theresa May ddod yn Brif Weinidog.

Dim lle i Nicky Morgan na John Whittingdale

Mae’r Ysgrifennydd Addysg Nicky Morgan, a oedd wedi cefnogi Michael Gove yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol, wedi cael y sac a does dim lle chwaith i’r Ysgrifennydd Diwylliant John Whittingdale.

Dywedodd Nicky Morgan ei bod hi’n “siomedig” na fydd hi’n  gallu parhau a’i swydd fel Ysgrifennydd Addysg.

Justine Greening, a oedd yn Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol, fydd yn ei holynu fel Ysgrifennydd Addysg a gweinidog dros fenywod a chydraddoldeb newydd.

Dywedodd John Whittingdale  ei bod hi wedi bod yn “fraint” gwasanaethu fel Ysgrifennydd Diwylliant a dymunodd “bob llwyddiant” i’w olynydd.

Yr Ysgrifennydd Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon newydd yw Karen Bradley.

Mae Oliver Letwin, a gafodd ei benodi gan David Cameron i ddechrau trafodaethau i adael yr UE, hefyd wedi cael ei ddiswyddo yn dilyn penodiad David Davis fel Ysgrifennydd Brexit ddoe.

Oliver Letwin hefyd oedd y gweinidog oedd yn gyfrifol am Swyddfa’r Cabinet cyn iddo gael y sac.

Mae enw lled newydd, Gavin Williamson, wedi cael ei benodi’n Brif Chwip y Llywodraeth. Cafodd ei ethol fel AS yn 2010 ac roedd wedi bod yn Ysgrifennydd Preifat Seneddol i’r Prif Weinidog – swydd sy’n cael ei ystyried fel llygaid a chlustiau’r Prif Weinidog ar y meinciau cefn – ers 2013.

Mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Patrick McLoughlin wedi cael ei benodi yn gadeirydd y Blaid Geidwadol a bydd hefyd yn gyfrifol am Swyddfa’r Cabinet fel Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn.  Mae Patrick McLoughlin wedi bod yn AS ers 1986 ac fel cyn-löwr, mae’n un o’r ychydig ASau Ceidwadol sydd wedi gwneud gwaith llafur cyn cael ei ethol i’r Senedd.

Chris Grayling yw’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth newydd.  Grayling wnaeth arwain ymgyrch arweinyddiaeth Theresa May ac mae wedi bod yn Arweinydd Tŷ’r Cyffredin ers 2015.

Mae’r cyn-Ysgrifennydd Busnes Sajid Javid wedi cael ei benodi’n Ysgrifennydd Cymunedau.

Greg Clark sydd wedi cael ei benodi yn Ysgrifennydd adran newydd sef yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol sy’n cyfuno’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd (Decc). Mae amgylcheddwyr wedi beirniadu’r newid gan ddweud bod y Llywodraeth yn israddio newid hinsawdd.

Priti Patel fydd yn cymryd swydd yr Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol.

Mae David Mundell yn parhau’n Ysgrifennydd yr Alban.

Mae’r Farwnes Evans wedi cael ei phenodi’n Arweinydd Tŷ’r Arglwyddi. Cafodd ei derbyn i Dŷ’r Arglwyddi yn 2014. Dywedodd ei rhagflaenydd, Tina Stowell, y bydd hi’n “arweinydd arbennig” o’r tŷ wrth ei llongyfarch.

Villiers a Crabb yn ymddiswyddo

Mae Theresa Villiers, Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon, wedi ymddiswyddo o’r Llywodraeth.

Meddai mewn datganiad ei bod hi wedi cael cynnig rôl newydd ond nid un yr oedd hi’n teimlo y galla’i ei gymryd.

Meddai’r datganiad ei bod hi’n “ddiolchgar iawn o fod wedi cael y cyfle i wasanaethu ar y fainc flaen am 11 mlynedd” a’i bod hi’n credu ei bod yn “gadael y sefyllfa wleidyddol yno yn fwy sefydlog nag y bu ers blynyddoedd lawer.”

Ychwanegodd y bydd gan y Prif Weinidog a’r Llywodraeth ei chefnogaeth lawn.

James Brokenshire sydd wedi cael ei benodi’n Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon yn ei lle.

Mewn ymddiswyddiad arall, mae’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau a chyn Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb wedi rhoi’r gorau i fod yn rhan o’r Cabinet. Meddai mewn datganiad bod ei benderfyniad “er budd fy nheulu”.

Roedd Stephen Crabb, AS Preseli a Phenfro, yn un o’r pedwar ymgeisydd gwreiddiol yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol.

Mae Alun Cairns yn cadw ei swydd fel Ysgrifennydd Cymru.

Mae Damian Green, sy’n enedigol o’r Barri, wedi cael ei benodi yn Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau i olynu Stephen Crabb.

Dyma’r penodiadau hyd yn hyn:

Ysgrifennydd Addysg –  Justine Greening

Ysgrifennydd Iechyd  – Jeremy Hunt

Ysgrifennydd Cyfiawnder – Liz Truss

Canghellor – Philip Hammond

Ysgrifennydd Cartref – Amber Rudd

Ysgrifennydd Tramor – Boris Johnson

Ysgrifennydd Amddiffyn – Michael Fallon

Ysgrifennydd Gwladol Brexit – David Davis

Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol – Liam Fox

Ysgrifennydd Trafnidiaeth – Chris Grayling

Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau – Damian Green

Ysgrifennydd Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig – Andrea Leadsom

Ysgrifennydd Cymunedau – Sajid Javid

Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon – James Brokenshire

Ysgrifennydd Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol – Greg Clark

Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol – Priti Patel

Ysgrifennydd Cymru – Alun Cairns

Yr Ysgrifennydd Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon – Karen Bradley

Ysgrifennydd yr Alban – David Mundell