Banc Lloegr Llun: PA
Mae Banc Lloegr wedi cyhoeddi cynlluniau i hybu benthyciadau o hyd at £150 biliwn wrth rybuddio bod y rhagolygon ar gyfer sefydlogrwydd ariannol “yn heriol” yn sgil y bleidlais Brexit.

Mae wedi llacio’r rheolau i fanciau fel rhan o fesurau i gryfhau’r economi a’r system ariannol yn sgil canlyniad y refferendwm ac yn “barod i gymryd unrhyw gamau” os oes angen.

Mae’n golygu y bydd banciau yn gallu rhoi mwy o fenthyciadau i gartrefi a busnesau.

Cafodd y mesurau eu datgelu yn Adroddiad Sefydlogrwydd Ariannol y Banc, sy’n rhybuddio am effaith canlyniad y bleidlais dros adael yr Undeb Ewropeaidd (UE).

Yn yr adroddiad, mae’r Banc yn rhybuddio y bydd cyfnod o “ansefydlogrwydd” yn dilyn canlyniad y refferendwm.

“Fe fydd yn cymryd amser i’r DU sefydlu perthynas newydd gyda’r UE a gweddill y bydd.”

Serch hynny, meddai, er gwaetha gostyngiad yng ngwerth y bunt a gostyngiad o 20% yng ngwerth cyfrannau banc ers y refferendwm, mae’r sector bancio wedi parhau’n “wydn”.