Disgwyl rhagor o ymddiswyddiadau o gabinet Jeremy Corbyn
Mae’r rhestr o aelodau cabinet cysgodol y Blaid Lafur sydd wedi ymddiswyddo yn parhau i dyfu wrth i’r pwysau ar yr arweinydd Jeremy Corbyn i ymddiswyddo gynyddu.

Mae aelodau seneddol y blaid yn anfodlon ynghylch arweiniad Corbyn yn ystod y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae adroddiadau bod nifer yn rhagor yn parhau i ystyried eu dyfodol yn dilyn penderfyniad Corbyn i ddiswyddo Hilary Benn, y llefarydd tramor.

Y rhai sydd eisoes wedi ymddiswyddo yw:

  • Lucy Powell (Addysg)
  • Heidi Alexander (Iechyd)
  • Gloria De Piero (Pobol Ifanc)
  • Kerry McCarthy (Amgylchedd)
  • Lilian Greenwood (Trafnidiaeth)
  • Ian Murray (Yr Alban)
  • Seema Malhotra (Prif Ysgrifennydd Cysgodol i’r Trysorlys)
  • Vernon Coaker (Gogledd Iwerddon)
  • Yr Arglwydd Falconer (Cyfiawnder)
  • Karl Turner (Twrnai Cyffredinol Cysgodol)

Mae Chris Bryant (Arweinydd cysgodol Tŷ’r Cyffredin) hefyd yn ystyried a fydd yn ymddiswyddo.