Mae’r aelod seneddol Jo Cox wedi cael ei chofio fel “Samariad Trugarog o’r unfed ganrif ar hugain” mewn gwasanaeth eglwysig yn y pentref lle cafodd hi ei lladd ddydd Iau.

Dywedodd y Parchedig Paul Knight wrth bobol yn eglwys St Peter’s yn Birstall ei bod hi’n “rhywun y byddai’r Iesu wedi bod mor blesd â hi”.

“Roedd ei charedigrwydd yn rhyfeddol ac yn anorchfygol a da o beth fyddai i ni ei chydnabod fel esiampl anhygoel – Samariad Trugarog o’r unfed ganrif ar hugain.”

Ychwanegodd ei bod hi’n “rhywun fyddai’n mynd allan o’i ffordd i helpu eraill”.

“Er bod rhaid ei bod hi’n grac ar adegau ynghylch yr hyn welodd hi yma ac o amgylch y byd – y llefydd hynny yr ymwelodd â nhw ac y gweithiodd hi ynddyn nhw – roedd hi’n ymddangos i fi, o leiaf, fel un a allai brwydro ag angerdd ac â gwên gyfareddol.”

Cafwyd gweddïau i’w theulu yn ystod y gwasanaeth, a dywedodd ei gŵr Brendan ar Twitter bod y teulu’n hoff o wersylla, ac y gwnaethon nhw wersylla nos Sadwrn er cof amdani.

Ychwanegodd y Parchedig Paul Knight: “Mae cryn dipyn o ddrygioni yn ein byd. Ond diolch i Dduw fod yna gymaint o ddaioni – daioni nad yw’n adnabod lliw na chenedligrwydd.”