Mae sylwebydd golff wedi awgrymu y dylai merched sydd am ymuno â chlwb golff Muirfield “briodi rhywun sy’n aelod”.

Fe wnaeth Peter Aliss y sylwadau ar ôl i’r clwb yn nwyrain yr Alban bleidleisio yn erbyn derbyn aelodau benywaidd, gan golli’r hawl i gynnal y Bencampwriaeth Agored wrth wneud hynny.

Roedd y bleidlais wedi cael ei chynnal yn dilyn ymgynghoriad dros ddwy flynedd ar y rheolau ymaelodi – ond roedd 2/3 o’r aelodau yn erbyn newid y rheol.

Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi dweud nad oes modd esgusodi’r gwaharddiad ac mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron, wedi dweud bod y polisi yn “hen ffasiwn”.

Wrth siarad ar BBC Radio 5 Live, dywedodd Peter Aliss, sy’n 85 oed, fod y mater yn “bwnc sydd wedi cynhyrfu llawer”.

“Mae’r merched sydd yno yn wragedd i wŷr. Maen nhw’n cael y cyfleusterau i gyd. Os yw rhywun am ymuno, well i chi briodi rhywun sy’n aelod,” meddai ar y rhaglen.

Galw am “gallio”

Yn y cyfamser, mae un o olffwyr enwocaf Prydain, Rory McIlroy, wedi galw ar aelodau’r clwb i “galli..”

“Gallan nhw wneud beth fynnon nhw ond yn yr oes hon, dydy hi ddim yn iawn i gynnal pencampwriaeth fwya’r byd mewn lle sydd ddim yn caniatáu i ferched ymaelodi,” meddai.

“Gobeithio byddan nhw’n callio ac y gallwn ni gael [Y Bencampwriaeth Agored] yn ôl yno rhyw ddiwrnod.”