Mae dyn 40 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio nyrs mewn ysbyty iechyd meddwl yn Croydon ddydd Iau.

Bydd Jimmy Jedson yn ymddangos gerbron ynadon yn Bromley ddydd Llun, wedi’i gyhuddo o lofruddio Patrick Clarke, 68 o Swydd Surrey, yn yr ysbyty yn Southleigh.

Daeth archwiliad post-mortem i’r casgliad ei fod wedi marw o ganlyniad i gael ei drywanu yn ei frest.